Facebook
Twitter
Problem melden

Fel mae'r afon Songtext
von Alarm

Mor wâg yw'r dyfodol
Yn aros 'nawr I ti a fi;
Dim rhwystr o'r gorffennol,
Cerddwn lawr y ffordd yn hy'.
'Rôl dod mor bell
'Does dim troi 'nôl I fod;

Na'i daflu I gyd I ffwrdd
Pan dry rhywbeth da yn sur;
'Does dim byd sy' wedi'i sgwennu
I ddweud pa ffordd rhaid I ni fynd.
'Dwi ddim ishio unrhyw sicrwydd,
Dim geiriau'n y graig,
Dim addewidion cadarn, Na, Na

Fel mae'r afon yn llifo i'r môr,
Felly bywyd sy'n llifo'n ddi-dor
O gopa'r mynyddoedd I fynwes y môr,
Felly'n bywyd sy'n ddi-dor.

'Rôl llusgo'n traed rhy hir
Pob milltir sy'n bla;
Mae'n hen bryd I ni brofi,
Profi'n bod ni'n ddigon da;
'Does dim gwir fel y gwir
Sy'n herio dy feddwl di;
Rhaid wynebu'r ffaith, paid â bod mor syn,
Mae popeth gwerth i'w cael, i'w cael fan hyn.

Fel mae'r afon yn llifo i'r môr,
Felly bywyd sy'n llifo'n ddi-dor
O gopa'r mynyddoedd I fynwes y môr,
Felly'n bywyd sy'n ddi-dor.
Fragen über Alarm
Was ist der ABC Alarm?
Was ist der Plural von Alarm?
Was ist ein stiller Alarm?
Wie lange darf eine Alarmanlage hupen?
Alarm - Fel mae'r afon
Quelle: Youtube
0:00
0:00
Made with in Berlin
© 2000-2024 MusikGuru